DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) a Milfeddygon (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

DYDDIAD

27 Mehefin 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) a Milfeddygon (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·           Rheoliadau Mewnforio a Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019;

·           Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig 2011 (ddim yn berthnasol i Gymru);

·           Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Gogledd Iwerddon) 2011 (ddim yn berthnasol i Gymru) a

·           Rheoliadau Milfeddygon a Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019.

 

Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwysadwy a ddiwygir gan Reoliadau 2019.

 

·           Rheoliad gan y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004

·           Penderfyniad gan y Comisiwn 2006/168/EC

·           Penderfyniad gan y Comisiwn 2006/766/EC

·           Penderfyniad gan y Comisiwn 2007/777/EC

·           Rheoliad (EC) rhif 798/2008 gan y Comisiwn.

·           Rheoliad gan y Comisiwn (EC) rhif 119/2009

·           Rheoliad gan y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010

·           Penderfyniad gan y Comisiwn 2010/472/EC

·           Rheoliad gan y Comisiwn (UE) 605/2010

·           Penderfyniad gan y Comisiwn 2011/163/EC

·           Penderfyniad Gweithredu gan y Comisiwn 2011/630/EC

·           Penderfyniad Gweithredu gan y Comisiwn 2012/137/EC

·           Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 139/2013

·           Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn  2016/759

·           Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn  2018/659

 

Diben y diwygiadau

Ar hyn o bryd mae trydydd gwledydd yn cyflwyno cais i'r Comisiwn fel y gallant gael eu rhestru fel gwlad y gall Aelod-Wladwriaethau fewnforio ganddynt, a phennu'r gofynion y mae'n rhaid i'r gwledydd hynny eu bodloni er mwyn parhau ar y rhestr. Bydd yn rhaid i ddosbarthiad o'r fath ynghylch statws risg gwlad sy'n allforio gael ei gymeradwyo gan y DU o ran gwledydd y gall y DU fewnforio ganddynt. Nid yw gwlad sy'n allforio yn debygol o gyflwyno cais ar wahân i 4 gweinyddiaeth y DU, a chan nad oes unrhyw Safleoedd Archwilio Ffiniau yng Nghymru byddai unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid yn cyrraedd Lloegr i ddechrau fel arfer, a byddai'n rhaid iddynt fodloni gofynion dosbarthiad Lloegr cyn bodloni gofynion Cymru. O'r herwydd, bydd un rhestr yn cael ei chadw a bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol. Ni fydd yr Ysgrifennydd Gwladol ond yn gallu gweithredu drwy dderbyn cydsyniad y Gweinidogion eraill (Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig eraill). Ni fyddai gofynion gwlad ond yn newid mewn ymateb i risg bioddiogelwch, a byddai ymateb effeithlon a brys ar draws y DU gyfan yn ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath.

 

Mae Rheoliadau 2019 yn sicrhau bod modd diwygio'r rhestrau perthnasol o drydydd gwledydd. Mae'r pŵer hwn  yn ofynnol er mwyn galluogi'r Deyrnas Unedig i gysoni ein deddfwriaeth o ran iechyd anifeiliaid â deddfwriaeth y DU rhag ofn y bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb, ac i hwyluso masnach â thrydydd gwledydd newydd.

 

Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn gwneud mân ddiwygiad er mwyn cywiro croesgyfeiriad at Reoliadau Milfeddygon a Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019, 'yr Offeryn Milfeddygon'. Mewn perthynas â hyn, mae rheoleiddio'r proffesiwn milfeddygon yn fater cadw o dan adran G1 o Ran 2 o Atodlen 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/4uBo9Ohy

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Rheoliadau 2019 yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol, yn lle'r Comisiwn Ewropeaidd, i arfer swyddogaethau deddfwriaethol/gweinyddol mewn perthynas â'r DU gyfan. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol bymtheg o swyddogaethau deddfwriaethol sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i lunio rheoliadau mewn perthynas â'r DU, ar yr amod y gofynnir am gydsyniad gan Weinidogion Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch llunio'r ddeddfwriaeth. Mae'r pŵer ar gyfer llunio rheoliadau yn ei gwneud hi'n bosibl i ddiwygio rhestri'r DU o drydydd gwledydd cymeradwy fel y gall trydydd gwledydd gael eu hychwanegu, eu hamrywio neu eu dileu o'r rhestr. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried safbwyntiau'r awdurdodau perthnasol (Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon (o fewn ystyr Deddf Gogledd Iwerddon 1998 neu adran Gogledd Iwerddon) cyn llunio Rheoliadau. Bwriad hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i ofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer sy'n berthnasol i'r DU gyfan, lle y mae'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol roi sylw dyledus i gais o'r fath. Bydd pwerau cydsynio yn ymwneud â dileu neu amrywio rhestr trydydd gwlad; gan ddibynnu, er enghraifft, ar risgiau bioddiogelwch newydd neu gyfredol, neu reolau'r wlad ynghylch atal a rheoli clefydau anifeiliaid. Mae Rhan 5 yn trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n pennu'r gwiriadau milfeddygol ar gyfer y rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion a gaiff eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru o dan broses o wneud penderfyniadau ar y cyd. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi a diwygio (lle y bo angen) restr o anifeiliaid a chynhyrchion sy'n ddarostyngedig i wiriadau mewnforio gan filfeddygon a rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd a bwydydd anifeiliaid sydd wedi'u heithrio rhag gwiriadau o'r fath.

 

Mae masnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yn swyddogaeth ddatganoledig. Mae meysydd sy'n gysylltiedig â mewnforion yn rhan o'r gwaith o wahardd a rheoleiddio mewnforion ac allforion, sef mater a gedwir yn ôl o dan baragraff 71 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae rhai eithriadau, fodd bynnag, gan gynnwys atal a symud i mewn ac allan o Gymru fwydydd, planhigion, anifeiliaid a phethau cysylltiedig at ddiben diogelu iechyd pobl, iechyd anifeiliaid neu iechyd planhigion, lles anifeiliaid neu'r amgylchedd.

 

Byddai swyddogaethau a drosglwyddir â chydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.   Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Bydd Rheoliadau 2019 yn ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru yn unol â'r swyddogaethau newydd sy'n golygu gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol i lunio rheoliadau a cheisio cydsyniad mewn perthynas â'r rheoliadau.

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Fel y nodir uchod, bydd Rheoliadau 2019 yn sicrhau bod gennym y pwerau ar gyfer diwygio'r rhestrau perthnasol o drydydd gwledydd. Mae angen y pŵer ar y Deyrnas Unedig i gysoni ein deddfwriaeth ym maes iechyd anifeiliaid â deddfwriaeth yr UE rhag ofn y bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb, ac er mwyn galluogi'r Deyrnas Unedig i hwyluso masnach â thrydydd gwledydd newydd. Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn gwneud mân ddiwygiad er mwyn cywiro croesgyfeiriad at Reoliadau Milfeddygon a Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019, 'yr Offeryn Milfeddygon'.